2013 Rhif 2006 (Cy. 197) (C. 85)

harbyrau PYSGODFEYDD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Mordwyaeth 2013 (Cychwyn) (Cymru) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn adrannau 5 a 6 o Ddeddf Mordwyaeth 2013 (p.23) (“Deddf 2013”) i rym mewn perthynas â harbyrau pysgodfeydd yng Nghymru.

Mae adran 5 o Ddeddf 2013 yn mewnosod adrannau 40A i 40D newydd i Ddeddf Harbyrau 1964 (p.40) (“Deddf 1964”). Mae adran 40A o Ddeddf 1964 yn galluogi awdurdod harbwr dynodedig i wneud cyfarwyddiadau harbwr. Mae adran 40B o Ddeddf 1964 yn pennu’r weithdrefn sy’n gymwys mewn cysylltiad â gwneud cyfarwyddiadau harbwr. Mae adran 40C o Ddeddf 1964 yn darparu ar gyfer gorfodi cyfarwyddiadau harbwr ac mae adran 40D o Ddeddf 1964 yn gwneud darpariaethau atodol mewn cysylltiad â chyfarwyddiadau harbwr.

Mae adran 6 o Ddeddf 2013 yn mewnosod adrannau 17A i 17F newydd i Ddeddf 1964. Mae adran 17A o Ddeddf 1964 yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i wneud gorchymyn cau harbwr. Mae adran 17B yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chynnwys gorchmynion cau harbwr ac mae adran 17C yn darparu y caiff gorchmynion cau harbwr drosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau’r awdurdod harbwr perthnasol. Mae adran 17D yn pennu’r weithdrefn sy’n gymwys mewn cysylltiad â gwneud gorchmynion cau. Mae adran 17E yn ymdrin â datganoli ac yn darparu, mewn perthynas â harbyrau pysgodfeydd yng Nghymru, mai Gweinidogion Cymru sydd â’r pŵer i wneud gorchmynion cau harbwr. Mae adran 17F o Ddeddf 1964 yn gwneud darpariaethau atodol mewn cysylltiad â gorchmynion cau harbwr.

 

NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau canlynol yn Neddf Mordwyaeth 2013 wedi eu dwyn i rym, neu byddant yn cael eu dwyn i rym, i’r graddau a ddarperir isod, ar y Dyddiadau Cychwyn a bennir, gan Orchymyn Deddf Mordwyaeth 2013 (Cychwyn) 2013 (O.S. 2013/1489 (C. 59)).

 

Y Ddarpariaeth

 

Y Dyddiad Cychwyn

adrannau 1 i 4 (mewn perthynas â Chymru a Lloegr)

1 Hydref 2013

adrannau 5 a 6 (mewn perthynas â Chymru a Lloegr ac eithrio mewn perthynas â harbyrau pysgodfeydd yng Nghymru)

1 Hydref 2013

adran 7 (mewn perthynas â Chymru a Lloegr)

26 Mehefin 2013

adrannau 8 i 11 (mewn perthynas â Chymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon)

26 Mehefin 2013

 

 

 


2013 Rhif 2006 (Cy. 197) (C. 85)

harbyrau pysgodfeydd, CYMRU

Gorchymyn Deddf Mordwyaeth 2013 (Cychwyn) (Cymru) 2013

Gwnaed                                   11 Awst 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 13(2) a (4) o Ddeddf Mordwyaeth 2013([1]).

Enwi a dehongli

1.(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Mordwyaeth 2013 (Cychwyn) (Cymru) 2013.

(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mordwyaeth 2013.

Y diwrnod penodedig

2. 1 Hydref 2013 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym adrannau 5 a 6 o’r Ddeddf mewn perthynas â harbyrau pysgodfeydd yng Nghymru.

 

Alun Davies

 

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

 

11 Awst 2013



([1])           2013 p.23.